Cymraes yw hon

Picnik collage cymro cymro h ddrwg cymraes

Llun o Flickr


A blog post in response to this guest post . You may need to dig out google translate to help with it!

 
Fydd llawer ohonoch ddim yn deall gair o'r blog yma heddiw. Nid wyf wedi colli fy mhen ond yn ateb i her gefais ddoe trwy Twitter.

Yr heriwr oedd Typecast a chefais yr her ar ôl  post gwadd ar ei blog ddoe gan @KingofAnkh. Roedd Gwyn @KingofAnkh yn son am ei Gymreictod ac am y ffaith mae Cymraeg oedd ei iaith gyntaf.
Cymraeg yw fy iaith gyntaf innau hefyd a dim ond Cymraeg roeddwn yn siarad gartre ac yn yr ysgol Gynradd. Nid oedd yr ysgol Uwchradd yn ysgol Cymraeg uniaith ac felly dyna ddechreuodd fy ffordd lawr y lleth llithrig o ddefnyddio geiriau Saesneg yn lle geiriau Cymraeg. Roedd Saesneg yn gŵl ac felly aml oedd pan roeddwn yn siarad Saesneg gyda fy ffrindiau Cymraeg!

Yna daeth yr amser i fynd bant i Brifysgol, gadael y nyth a mynd i Loegr i fyw. Credwch neu beidio wrth glywed fy nheulu yn siarad Cymraeg gyda fi wrth ddadbacio fy nillad roedd fy 'flatmate' newydd yn meddwl fy mod yn dod o De Affrica ac nid Cymru fach (a oedd llai na chan milltir o'm drws yn brifddinas gogledd Cymru, Lerpwl!). Yno, yn y dinas cwrddais â sawl Cymro a lwcus oeddwn i fyw gydag un. Roedd ei Chymraeg hi bron mor Wenglishaidd ac un fi a gan roedd hi yn wneud Ffrangeg a Rwsiad fel gradd aml fyddai yn rhoi gair anghywir mewn i frawddeg pan fyddai yn siarad Saesneg. Pass the Llwy please!

Symud nôl i'm milltir sgwâr wnes ar ôl gadael y brifysgol ac yma rwyf o hyd. Ni allaf weld fy hunan byth yn symud o Gymru fach ac o'r Wild West yma. Mae fy nghwr (sydd o Jamaica yn wreiddiol) nawr yn ddysgwr Cymraeg ac yn fy mhrofocio am nad wyf yn gallu treiglo yn iawn (rwyf wedi defnyddio sawl geiriadur/Cysill ayb cyn rhoi hwn lan i bawb ei darllen)

Nid wyf yn berson sydd yn rhoi fy Nghymreictod yn eich wyneb, nid yw'r plant yn mynychu ysgol gynradd Cymraeg yn unig ond ysgol ddwyeithiog (a oedd yn broblem i fy chwaer yn gyfraith ond mae hwnnw yn stori arall), maent yn siarad Cymraeg ond falle ddim mor rhugl â beth ydw i ond pan daeth Bel mewn i'r byd nid oeddwn yn siŵr sut i drin y ffaith mae Cymraes oeddwn i ac mae Sais oedd ei thad. Ond mae'r ddau yn fy nheall yn iawn ac ers i Car dechrau ysgol mae hon yn gwella.

Mi rwyf yn falch o dod o'r wlad fach hon. Ni allaf fy ngweld yn byw dim un man arall. Ar ôl dechrau yn fy swydd bresennol mae safon fy Nghymraeg ysgrifenedig wedi gwella (heblaw am y treigliadau). Cymraes ydw i a gwaed Cymro sydd yn rhedeg trwy fy ngwythi.

BNM







Comments